BoroughJobsUK public-sector jobs, mapped to your postcode Match my CV NEW Post a job
Bridgend

Swyddog Cymorth Dysgu (Dros dro) - Ysgol Gynradd Gymraeg Calon y CymoeddCouncil

Ysgol Gynradd Gymraeg Calon Y Cymoedd 30 hours/week £19,546 - £20,183 y flwyddyn
Posted 20 November 2026 Closing date 9 December 2026
Checked 2 hours ago · still listed on the employer's site Closes in 19 days · 9 Dec 2026

Key details

  • Hours: 30 hours per week, Term time
  • Package: EDU-T

30 awr yr wythnos x 2 swydd ar gael

Tymor yr Ysgol

Dros dro - i gychwyn 04.01.26

I gychwyn Ionawr 2027

O ganlyniad i ddyrchafiadau a chyfleoedd datblygu proffesiynol o fewn yr ysgol, mae Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Gymraeg Calon y Cymoedd yn dymuno penodi Swyddog Cymorth Dysgu llawn cymhelliant a brwdfrydedd i ymuno â'n tîm ymroddgar, arloesol a chreadigol.

Mae hwn yn gyfle cyffrous i weithio mewn ysgol Gymraeg flaengar sy'n darparu amgylchedd dysgu ysgogol, gofalgar a chynhwysol lle mae pob plentyn yn cael ei werthfawrogi a'i gefnogi i wireddu ei botensial. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio'n agos gyda staff addysgu i gefnogi dysgu disgyblion ac i gyfrannu at gynnal safonau uchel o addysgu a dysgu ar draws yr ysgol.

Rydym yn chwilio am unigolyn sydd:

  • â phrofiad o weithio gyda phlant mewn lleoliad addysgol neu debyg;
  • yn gallu meithrin perthnasoedd cadarnhaol gyda disgyblion, staff a rhieni;
  • yn gweithio'n effeithiol fel rhan o dîm;
  • â sgiliau llythrennedd, rhifedd a TGCh da;
  • yn gallu cyfathrebu'n effeithiol drwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd dyletswyddau'r rôl yn cynnwys:

  • cefnogi dysgu disgyblion unigol a grwpiau bach;
  • cynnal gweithgareddau dysgu strwythuredig;
  • monitro cynnydd disgyblion a rhoi adborth i athrawon;
  • cynorthwyo gyda goruchwyliaeth yn ystod amseroedd chwarae a gweithgareddau ysgol;
  • cyfrannu at greu amgylchedd dysgu diogel, trefnus a chefnogol.

Mae'n ofyniad hanfodol eich bod yn gallu sgwrsio ac ymateb i ohebiaeth yn Gymraeg, gyda hyder ac yn rhwydd.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 09 Rhagfyr 2026

Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 12 Rhagfyr 2026

Dyddiad y Cyfweliad: 14 Rhagfyr 2026

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person

Position type: Term time

Apply / view full listing →
Want more jobs like this? Upload your CV and see the ones that fit.
Match my CV →
More jobs in Bridgend

Swyddog Cymorth Dysgu (Cyfnod Mamolaeth) - Ysgol Gynradd Gymraeg Calon y CymoeddCouncil

Bridgend County Borough Council
Ysgol Gynradd Gymraeg Calon Y Cymoedd 30 hours/week £19,546-£20,183 y flwyddyn Closes 9 Dec More in Bridgend

Key details Hours: 30 hours per week, Term time Package: EDU-T 30 awr yr wythnos Tymor yr Ysgol Dros dro (Cyfnod Mamolaeth) - i gychwyn 04.01.26 I gychwyn Ionawr 2027 O ganlyniad i ddyrchafiadau a chyfleoedd datblygu proffesiynol o fewn yr ysgol, mae Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Gymraeg Calon y…

Support Time and Recovery WorkerCouncil

Bridgend County Borough Council
Bridgend County Borough 37 hours/week £29,542 - £30,515 per annum Expires in 12 days More in Bridgend

Key details Hours: 37 hours per week, Full time 37 hours per week To work as part of a team that focuses on the direct needs of individuals to support their recovery from an episode of mental ill health. Alongside senior staff you will be involved in the assessment of individuals referred to ARC…

Carpenter - CommunitiesCouncil

Bridgend County Borough Council
Bridgend County Borough 37 hours/week £29,542 - £30,515 per annum Expires in 12 days More in Bridgend

Key details Hours: 37 hours per week, Full time 37 hours per week At Bridgend County Borough Council, we have transformed the way we manage our property estate. We manage a diverse property portfolio, from schools to industrial estates from care homes to market stalls. We’ve changed to a…