BoroughJobsUK public-sector jobs, mapped to your postcode Match my CV NEW Post a job
Torfaen HR & People

Swyddog Datblygu Cymunedol Ardal Blaenau Gwent - Lleol CymruCouncil

37.5 hours/week £25,000
Posted 13 November 2026 Closing date 30 November 2026
Checked 12 hours ago · still listed on the employer's site Closes in 17 days · 30 Nov 2026

Swyddog Datblygu Cymunedol - Ardal Blaenau Gwent.

Ydych chi’n hoffi trefnu gweithgareddau ac yn caru’r Gymraeg?

Mae Sefydliad Corfforedig Elusennol Menter Iaith BGTM (rhif elusennol 1181104) yn chwilio am berson arbennig i adeiladu ar y gwaith o hyrwyddo a datblygu’r cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn lleol.

Cefndir

Nod y Mentrau Iaith ydy hybu a hyrwyddo’r Gymraeg ar draws Cymru. Sefydlwyd y Fenter Iaith gyntaf yng Nghwm Gwendraeth yn 1991,ac erbyn hyn mae 22 Menter Iaith yn gwasanaethu pob rhan o Gymru. Wedi tyfu o awydd a dyheadau pobl leol y mae’r Mentrau Iaith, er mwyn hyrwyddo defnydd y Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd yn eu cymunedau. Mae’r Mentrau Iaith yn un o bartneriaid allweddol Llywodraeth Cymru ac yn gweithredu ar lawr gwlad i wireddu amcanion Cymraeg 2050: Strategaeth y Gymraeg – sydd yn nodi sut bydd Llywodraeth Cymru yn cyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050. Mae pob Menter Iaith yn gweithredu mewn ffordd unigryw yn ddibynnol ar anghenion lleol.

Disgrifiad Swydd/Prif Gyfrifoldebau:-

Darparu cyfleoedd i drigolion y sir gael mynediad i ddigwyddiadau ieithyddol, diwylliannol a chelfyddydol.

Grymuso grymuso unigolion, grwpiau a chymunedau i ddefnyddio’r iaith

Asesu anghenion cymunedau Blaenau Gwent o safbwynt gweithgareddau cyfrwng Cymraeg drwy broses o ymgynghori eang.

Meithrin a datblygu cysylltiadau agos gyda grwpiau cymunedol, mudiadau gwirfoddol a phartneriaid eraill (e.e Cymraeg i Oedolion Gwent, Mudiad Meithrin) gan gydlynu a threfnu gweithgareddau blaengar a deniadol a’u gwerthuso’n gyson.

Gweithio gyda phlant a phobl o bob oedran.


Datblygu prosiectau penodol a flaenoriaethwyd yng nghais a thargedau’r Llywodraeth.


Cyfrannu at brosesau gwerthuso a monitro'r Fenter.


Paratoi ceisiadau am nawdd ar adegau.

Manyleb person

Sgiliau Iaith Gymraeg da ar lafar ac yn ysgrifendig yn hanfodol
Dealltwriaeth o ddiwylliant ac anghenion ieithyddol Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy
Profiad o weithio gyda phlant ac oedolion a threfnu amrwy o weithgareddau ar eu cyfer
Y gallu i gyfathrebu’n glir yn Gymraeg a Saesneg ar bob lefel a gweithio gydag ystod eang o oedrannau
Hyderus pan yn weithio’n annibynnol ac yn dangos blaengaredd
Profiad o greu ac annog syniadau newydd (arloesol)
Sgiliau safonol o ddefnyddio TG / cyfryngau cymdeithasol
DBS cyfredol
Trwydded yrru gyfredol a char

Telerau’r Swydd

Cyflog: £25,000

Telir cyfraniad pensiwn cyflogwr (8%) yn ychwanegol

Costau Teithio

Telir costau teithio yn ôl graddfa CThEM

Oriau Gwaith

37.5 awr yr wythnos. Bydd hon yn swydd llawn amser.

Gwyliau

28 diwrnod y flwyddyn (+2 ddydd ychwanegol ar gyfer y Nadolig)

Hyd y Cytundeb

Parhaol

Bydd angen cwblhau cyfnod prawf o dri mis yn llwyddiannus.

Strwythur Rheoli

Byddwch yn gweithio o dan gyfarwyddyd Prif Swyddog ac yn atebol i fwrdd Ymddiriedolwyr y Fenter.

Lleoliad swyddfa’r Fenter

Ystafell L4 Alder Suite, Tŷ Mamhilad C

Llawr Cyntaf Gogledd

Ystad Parc Mamhilad Park

Pontypŵl

NP4 0HZ

Bydd disgwyl i’r ymgeiswyr llwyddiannus weithio mewn swyddfeydd ledled y siroedd ar adegau yn ogystal â'r posibilrwydd o gweithio o gartref

Dyddiad Cau:  30 o Dachwedd 2026

Cyswllt: Sioned Davies

[email protected] 

Dychwelwch y ffurflen trwy ebost os gwelwch yn dda erbyn 5pm, Dydd Llun, 30 o Dachwedd 2026

Dyma'r ddolen i wneud cais: https://lleol.cymru/cy/swyddi/swyddog-datblygu-cymunedol-blaenau-gwent/21258 

Position type: Full Time
Apply / view full listing →
Want more jobs like this? Upload your CV and see the ones that fit.
Match my CV →
More HR & People jobs in Torfaen

Swydd Arweinydd Dylunio a Thechnoleg - Ysgol Gymraeg GwynllywCouncil

Torfaen County Borough Council
Ysgol Gymraeg Gwynllyw 32.5 hours/week Core Pay Scale 1 - 8 Closes 29 Nov More in Torfaen

THE ABILITY TO SPEAK WELSH FLUENTLY IS AN ESSENTIAL REQUIREMENT FOR THIS ROLE. TO SEE FURTHER DETAILS AND TO APPLY FOR THIS POST, PLEASE CHANGE TO THE WELSH LANGUAGE VERSION OF OUR WEBSITE BY CLICKING ‘CYMRAEG’ ON THE TOP RIGHT CORNER OF THE SCREEN. Swydd Arweinydd Dylunio a Thechnoleg - Ysgol…

Athro/awes Technoleg Bwyd Ysgol Gymraeg GwynllywCouncil

Torfaen County Borough Council
Ysgol Gymraeg Gwynllyw 32.5 hours/week C1 - C8 Closes 29 Nov More in Torfaen

THE ABILITY TO SPEAK WELSH FLUENTLY IS AN ESSENTIAL REQUIREMENT FOR THIS ROLE. TO SEE THE ADVERT IN WELSH AND TO APPLY FOR THIS POST, PLEASE FOLLOW THIS LINK https://ce0895li.webitrent.com/ce0895li_webrecruitment/wrd/run/etrec179gf.open?WVID=624083EpRF&LANG=CYM&VACANCY_ID=736609YwWq Position type:…

Athro Athrawes Mathemateg- Ysgol Gymraeg GwynllywCouncil

Torfaen County Borough Council
Ysgol Gymraeg Gwynllyw 32.5 hours/week Core Pay Scale 1 - 8 Closes 29 Nov More in Torfaen

THE ABILITY TO SPEAK WELSH FLUENTLY IS AN ESSENTIAL REQUIREMENT FOR THIS ROLE. TO SEE FURTHER DETAILS AND TO APPLY FOR THIS POST, PLEASE CHANGE TO THE WELSH LANGUAGE VERSION OF OUR WEBSITE BY CLICKING ‘CYMRAEG’ ON THE TOP RIGHT CORNER OF THE SCREEN. Athro/Athrawes Mathemateg - Ysgol Gymraeg…