BoroughJobsUK public-sector jobs, mapped to your postcode Match my CV NEW Post a job
Pembrokeshire

Athro/Athrawes Celfyddydau Mynegiannol (Celf) - Ysgol Caer ElenCouncil

16.25 hours/week Graddfa Gyflog: £33,731 - £51,942
Posted 24 October 2026 Closing date 9 November 2026
Checked 8 hours ago · still listed on the employer's site Closes in 16 days · 9 Nov 2026

Athro/Athrawes Celfyddydau Mynegiannol (Celf) (0.5)

 

Mae Corff Llywodraethol Ysgol Caer Elen yn chwilio am athro/athrawes Celf a’r Celfyddydau Mynegiannol talentog, brwdfrydig a chymwys i ymgymryd â’r swydd hon. Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus fod yn gyfrifol am gyflwyno’r Maes Dysgu a Phrofiad Celfyddydau Mynegiannol (Celf) yng Ngham Cynnydd 4 a 5. Bydd deiliad y swydd hefyd yn gyfrifol am addysgu Celf at safon TGAU. Edrychwn am unigolyn egnïol a fydd yn barod i gyfrannu’n llawn at safonau academaidd a bywyd allgyrsiol yr ysgol.

 

Cytundeb parhaol, rhan amser yn y lle cyntaf (0.5) yw’r swydd hon a disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau o’r 4ydd o Ionawr 2027.

 

Ysgol pob oed 3-16 cyntaf cyfrwng Cymraeg Sir Benfro yw Ysgol Caer Elen sydd yn cynnig cyfleusterau rhagorol. Mae ein haddysgeg a’r ethos dysgu holistaidd yn galluogi ein disgyblion i gyfranogi a datblygu mewn amgylchedd ysgogol, hapus a diogel.

 

Os hoffech drafod cynnwys y swydd hon ymhellach, yna cysylltwch â’r Pennaeth, Mr Dafydd Hughes, trwy e-bost ar [email protected] neu trwy ffonio 01437 808470.

 

Y dyddiad cau ar gyfer y swydd yw dydd Llun, Tachwedd 9fed 2026.    

Fideo Addysgu Sir Benfro: Fideo - Cyngor Sir Penfro

Buddion i Weithwyr

Mae ein buddion i weithwyr wedi'u cynllunio i helpu i fuddsoddi yn eich dyfodol ac maent yn ychwanegol at fyw a gweithio yn Sir Benfro, un o'r siroedd mwyaf prydferth a dymunol yn y DU.

Mae gwefan Ymweld â Sir Benfro https://www.visitpembrokeshire.com/cy-gb yn ffynhonnell wybodaeth ardderchog, ac mae'n arddangos yr amrywiaeth eang o weithgareddau, amwynderau ac anturiaethau sy'n aros amdanoch.

Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.

Gwiriadau Cyflogaeth

Mae’r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi’i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a’ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy’n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o’r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a’ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.


Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.

Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.

Nodyn Canllaw: Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial a Chywirdeb Gwybodaeth:

  • Rydym yn deall y gall ymgeiswyr ddewis defnyddio offer fel Deallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol i gefnogi paratoi eu cais. Er bod defnyddio offer o'r fath yn cael ei ganiatáu, mae'n parhau i fod yn gyfrifoldeb llawn yr ymgeisydd i sicrhau bod yr holl wybodaeth a gyflwynir yn ffeithiol gywir, yn wir, ac yn gynrychioliadol o'u sgiliau, profiadau a chymwysterau eu hunain.
  • Gall darparu gwybodaeth sy'n ffug, yn gamarweiniol, neu'n orliwiedig, p'un a gafodd ei chynhyrchu gan Deallusrwydd Artiffisial ai peidio, arwain at anghymhwyso o'r broses recriwtio neu ddiswyddo os caiff ei ddarganfod ar ôl penodi.
  • Drwy gyflwyno'r cais hwn, rydych yn cadarnhau bod yr holl gynnwys a ddarperir yn gywir ac wedi'i gyflwyno'n ddidwyll.

Mae'r Rhaglen Cyflogaeth â Chymorth yn grŵp o fentrau sy'n seiliedig ar awdurdodau lleol sy'n cyflogi dros 75 o bobl ag anabledd neu gyflwr iechyd sy'n cyfyngu ar eu gallu i weithio, ewch i'r ddolen isod am ragor o wybodaeth: Rhaglen Cyflogaeth a Chymorth - Cyngor Sir Benfro

Diogelu

Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy’n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â’r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.


Mae’r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu’r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p’un a ydynt yn gweithio i’r Cyngor neu’n gweithio ar ran y Cyngor.


Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol

 

  • Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at [email protected].
  • Cysylltwch â'r Tîm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r swydd wag hon drwy anfon e-bost at [email protected]
  • Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau’r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae’r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2025.

Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy’n bodloni manyleb y person ac sydd wedi’u cofrestru ar ein cronfa adleoli.

 
Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.

Position type: Open Ended
Apply / view full listing →
Want more jobs like this? Upload your CV and see the ones that fit.
Match my CV →
More jobs in Pembrokeshire

Catalysts for Care ProjectCouncil

Pembrokeshire County Council
37 hours/week More in Pembrokeshire

Catalysts for Care Project Would you like to work for yourself? Are you passionate about helping people in your community? The Catalysts for Care project offers FREE 1-1 support to help you set up your own care / support enterprise (or business). You could work the hours that suit you and serve a…

Sister/Charge NurseNHS

Hywel Dda University Health Board
Haverfordwest, SA612PZ Permanent £40,559 to £48,841 Expires tomorrow More in Pembrokeshire

Job summary We have an exciting opportunity for a motivated Junior Sister/Charge Nurse to join our ever-expanding Same Day Emergency Care (SDEC) Unit. You'll be part of a fantastic, supportive team of nurses and nursing support workers, working in a busy, fast-paced environment where no two days…

Clinical Nurse Specialist - Acute OncologyNHS

Hywel Dda University Health Board
Haverfordwest, SA61 2PZ Fixed-Term £50,129 to £57,365 Expires in 8 days More in Pembrokeshire

Job summary THIS POST IS FIXED TERM/SECONDMENT FOR 12 MONTHS DUE TO FUNDING. IF YOU ARE INTERESTED IN APPLYING FOR THE SECONDMENT POSITION, YOU MUST OBTAIN PERMISSION FROM YOUR CURRENT LINE MANAGER PRIOR TO APPLYING FOR THIS POST. The Macmillan Acute Oncology Nursing Service is now a well…